| Cyfeiriad | Bala lake foreshaw, Bala, LL23 7SR |
|---|---|
| Ffôn | 01678 521059 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Bala Watersports yn ganolfan antur a chwaraeon dŵr ar lan Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru. Gellir llogi caiacs, canŵs a gwyntsyrffwyr yma. Ceir hefyd amrywiaeth llawn o gychod hwylio i’w llogi. Ac ar gyfer y rhai sy’n chwilio am antur ychydig yn fwy hamddenol, mae cychod rhwyfo a phedalos ar gael i’w llogi yma hefyd. Mae’r holl brisiau lansio ac yswiriant diogelwch yn gynwysedig yn y prisiau ac mae modd llogi 7 niwrnod yr wythnos, rhwng 10am a 4pm. Hefyd mae hyfforddwyr Bala Watersports ymhlith y rhai mwyaf cymwys a phrofiadol ym Mhrydain, gyda’r holl offer diweddaraf. Cynigir sbectrwm llawn o gyrsiau, o gwrs blasu am hanner diwrnod i gyrsiau hyfforddi achredol llawn (y GIF ac UCP).
| Cyfeiriad | Glanafon Garage, Lon Engan, Abersoch, Pwllheli, LL53 7HP |
|---|---|
| Ffôn | 01758 713407 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Offaxis yn siop chwaraeon yn arbenigo ar fyrddio yn Abersoch ac mae’n cael ei rheoli gan donfyrddwyr. Ceir yma ddewis rhagorol o donfyrddau Ronix, Hyperlite, CWB a Jobe a byrddau syrffio Surftech, Tuflite, Lost, Bilbo, Softop a Tabou. Gellir llogi tonfyrddau a byrddau syrffio am y diwrnod neu am eich gwyliau cyfan ac mae rhai byrddau syrffio ar gael i chi roi cynnig arnynt cyn eu llogi. Hefyd cynhelir dyddiau arddangos arbenigol yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r siop hefyd yn cadw amrywiaeth llawn o siwtiau gwlyb, ategolion dal dŵr a’r prif frandiau dillad. Mae’r siop yn gysylltiedig â chanolfan donfyrddio a syrffio a reolir gan hyfforddwyr tonfyrddio a syrffio proffesiynol. Darperir gwersi tonfyrddio i grwpiau a hyfforddiant tonfyrddio preifat ar gyfer dechreuwyr ac arbenigwyr fel ei gilydd. Hefyd gallwch ddysgu syrffio mewn grŵp neu gael gwersi syrffio preifat i gyd i chi eich hun neu gyda’ch ffrindiau.
| Cyfeiriad | Unit 2, Y Glyn, Llanberis, Caernarfon, LL55 4EL |
|---|---|
| Ffôn | 01286 879001 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Surf-Lines yn siop chwaraeon antur ar lan Llyn Padarn yn Llanberis, Eryri. Mae’r siop yn arbenigo mewn gwerthu offer canŵio a chaiacio ar gyfer dechreuwyr ac arbenigwyr fel ei gilydd. Mae’n cadw amrywiaeth gwych o gaiacs eistedd- arnynt, gan Ocean Kayak, Native Watercraft ac Islander, a dewis eang o gaiacs teithio gan Dagger a Pyranha. Gall caiacwyr môr wneud defnydd o amrywiaeth eang o fodelau gan Valley a Dagger – glan y llyn yw’r lleoliad perffaith i roi cynnig ar y fflyd. Ceir darpariaeth dda ar gyfer rhwyfwyr dŵr gwyn a chanŵ-wyr agored hefyd, gydag amrywiaeth o gychod gan gyflenwyr fel Dagger, Liquid Logic, Pyranha, Old Town a Mad River. Mae’r siop ar agor saith niwrnod yr wythnos, o 9am i 6pm, a gellir llogi canŵs a chaiacs. Mae amrywiaeth cynhwysfawr o gyrsiau antur, gwaith tîm a sgiliau ar gael hefyd gan dîm Surf-lines. Am fanylion llawn, ewch i’r chwaer-wefan: www.surf-lines.co.uk/adventure.
| Cyfeiriad | Lon Pen Cei, Abersoch, LL53 7AP |
|---|---|
| Ffôn | 01758 713067 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Wedi’i lleoli ym mhentref syrffio poblogaidd Abersoch, mae West Coast Surf yn siop syrffio boblogaidd gydag enw da. Mae’n cadw amrywiaeth eang o gitiau chwaraeon dŵr – byrddau syrffio a byrddau corff, siwtiau gwlyb ar gyfer pob siâp a thymor ac ategolion i siwtiau gwlyb. Hefyd mae ganddynt amrywiaeth eang iawn o fyrddau syrffio gyda’r brandiau’n cynnwys O'Shea, FireWire, Rip Curl, Maurice Cole, DHD, JP, Circle One, Byrddau Syrffio Bic, Hifly, Santa Cruz a Byrddau Syrffio Resin 8. Gellir llogi byrddau syrffio a siwtiau gwlyb yma hefyd, gyda gostyngiadau arbennig ar gael am archebion wythnos a grŵp. Mae’r siop yn cynnig adroddiad dyddiol defnyddiol ar yr amodau syrffio a gwe gamera ar gyfer safle syrffio allweddol, Porth Neigwl, yn ei wefan. Mae hefyd yn trefnu cystadlaethau syrffio ar y traethau lleol ac yn cynnal arddangosfeydd byrddio.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau