Ffaith Ddiddorol

Aberdaron

Y pentref hwn oedd yr arosfa olaf i bererinion oedd ar eu ffordd i Ynys Enlli, ynys enwog yr " 20,000 o saint". Fe’i datblygwyd fel canolfan adeiladu llongau a phorthladd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Aberdaron

Ewch i'r map

Abersoch

GwefanCliciwch Yma

Yn Aber-soch y pegynir y ddau ddiwylliant sydd bellach yn rhan o bob ardal yn Llŷn – y miloedd yn tyrru yno yn yr haf a’i droi yn bentref cwbl estron. One mae’r torfeydd yn diflannu yn yr hydref a thry Aber-soch yn bentref tawel hamddenol lle caiff y trigolion gyfle i gael eu cefn atynt. Ond mynd adref am gyfnod byr wna llawer o’r bobol ddieithr gan ddychwelyn i fyw yn barhaol yn y stadau tai di-alw-amdanynt  gan newid cymeriad ardal yn llwyr. Ceir gwestai a nifer o dai bwyta safonol. Gan for Aber-soch yn ganolfan hwylio a hwylfyrddio o gryn bwysigrwydd ceir yma orsdaf bad achub, clwb hwylio a siopau dillad ac offer morwrol.
Dyfyniad o lyfr 'Llŷn' gan Elfed Gruffydd (Gwasg Carreg Gwalch 01492 642031)

Harbwr Abersoch Harbour Abersoch Afon Soch River Angor Abersoch Anchor

Ewch i'r map

Adeiladu Llongau yn Nefyn

GwefanCliciwch Yma

Yn ôl y cofnodion lleol, adeiladwyd y llong gyntaf yn Nefyn yn 1760. Enw'r llong oedd Hopewell, slŵp 17 tunnell. Adeiladwyd 132 o longau yn Nefyn rhwng 1770 a 1880; dim ond Porthmadog a Phwllheli oedd yn adeiladu mwy o longau trwy gydol Cymru. Y llong olaf i gael ei hadeiladu yn Nefyn oedd y Venus, sgwner 107 tunnell, yn 1880. Mae’r cofnodion hefyd yn enwi rhai o’r adeiladwyr, er enghraifft William Roberts, a adeiladodd 7 llong rhwng 1833-48; Robert Thomas, Y Dderwen, a adeiladodd 13  llong rhwng 1849-66; ond John Thomas, Fron Oleu, oedd y mwyaf cynhyrchiol o lawer a adeiladodd 15 o longau rhwng 1813-39. Allan o’r 132 o longau a adeiladwyd yn Nefyn yn y cyfnod hwn, collwyd 95 ohonynt i’r môr, sy’n dangos pa mor beryg oedd bywyd i forwyr yn y gorffennol. Er hynny, hwyliodd 87 ohonynt am o leiaf ugain mlynedd, a chwarter o’r rhain am ddeugain mlynedd – bywyd hir i long o’r fath. Mae goroesiad hir y llongau hyn yn brawf o bensaernïaeth yr adeiladwyr a morwriaeth morwyr Nefyn.

Bae Nefyn Bay

Ewch i'r map

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol Llŷn

GwefanCliciwch Yma

Mae sylfaen y Eglwys hynafol y Santes Fair yn dyddio'n ôl i'r 6ed ganrif. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gorsaf pwysig ar y llwybr pererinion i Enlli ac roedd priordy ynghlwm wrtho. Pregethodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint yn yr eglwys ar Sul y Blodau 1188 yn ystod eu hymgyrch recriwtio ar gyfer y Croesgadau. Daethant o hyd, fel y tystiodd Gerallt, i ddigon o recriwtiaid. Mae'r adeilad bellach yn gartref i amgueddfa forwrol.

Eglwys y Santes Fair / St Mary's Church

Ewch i'r map

Bedyddwyr Bara a Chaws

GwefanCliciwch Yma

Roedd Capel Ty'n Lôn yn ganolfan bwysig i’r Bedyddwyr Albanaidd yng Ngogledd Cymru. Gelwid hwy yn ‘Fedyddwyr Bara a Chaws,’ a’r fynwent hefyd, gan iddynt ddod â bwyd gyda nhw i’r capel ar ôl teithio ymhell.  Fel defod angladdol ers talwm, byddai teulu’r ymadawedig yn gosod cacen neu daten a oedd newydd ddod o’r popty ar frest y corff marw o dan y ‘goeden bechod,’ gan ddisgwyl am y ‘bwytawr pechodau’ i sugno’r pechod o’r bwyd.

Mynwent Llanllyfni Cemetary

Ewch i'r map

Bethesda

Mae Bethesda yn dref fechan i’r dwyrain i ffordd yr A5, a enwyd yn Glan Ogwen yn wreiddiol, a’i phoblogaeth ar hyn o bryd ychydig dros 4,000. Ar ôl adeiladu capel yr Annibynwyr yn 1823, newidiwyd yr enw i Bethesda; daeth enwau Beiblaidd ar leoedd yn gyffredin ledled y wlad o ganlyniad i dwf yn y grefydd Anghydffurfiol. Mae cyfran helaeth o’r trigolion yn siarad Cymraeg. Tyfodd y dref yn aruthrol oherwydd y diwydiant llechi a maen, yn enwedig yn sgil Chwarel Penrhyn, y fwyaf o’r chwareli lleol. Yn ei anterth, allforiwyd y llechi glas tywyll neu werdd drwy’r byd, a daeth yn enwog fel y llechen orau yn fyd-eang. Bethesda oedd cartref y streic dair blynedd adnabyddus a arweiniwyd gan Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru a ddechreuodd yn 1900. Oherwydd dylanwad y chwareli, mae naws hanesyddol i’r dref gan fod nifer o’r adeiladau wedi eu codi o garreg a llechi. Mae’n nodedig am ei nifer o gapeli a thafarnau, yn enwedig y Douglas Arms. Cafodd y nofel boblogaidd Un Nos Ola Leuad a’r gyfres deledu Amdani eu lleoli ym Methesda. 

Ewch i'r map

Betsi Cadwaladr - Florence Nightingale Cymru

GwefanCliciwch Yma

Un o gymeriadau lliwgar y Bala a fedyddiwyd yn Eglwys Llanycil. Cychwynnodd ei hanturiaethau pan, yn ferch ifanc yn ei harddegau, ffodd o’r Bala i Lerpwl. Yno aeth yn forwyn i deulu mawr, ac yng ngwasanaeth ei meistr ymwelodd â nifer o wledydd y Cyfandir. Mae’n debyg mai dyma lle cafodd ei blas cyntaf ar antur teithio. Yn ddiweddarach, wedi dychwelyd i Gymru, ffodd eto i Lundain, y tro hwn i osgoi priodas, ac yno daeth ar draws chwaraedai’r ddinas. Bu’r theatr o ddiddordeb mawr iddi o hynny allan. Yn 1820, ar ôl dychwelyd eilwaith i’r Bala (lle ‘diflas,’ meddai hi!), aeth yn forwyn i gapten llong a bu’n crwydro’r byd am flynyddoedd. Yn ystod ei hanturiaethau, actiodd Shakespeare ar fwrdd y llong a chwrdd â rhai o enwogion y dydd fel William Carey a’r esgob Heber. Yn ôl ym Mhrydain, aeth i weithio fel nyrs yn Guy’s Hospital, a thrwy hynny, yn 1854 aeth i weinyddu yn rhyfel y Crimea. Yno cydweithiodd â Florence Nightingale, ond mae’n debyg na welodd y ddwy ddynes bengaled lygad i lygad.
 

Betsi Cadwaladr Eglwys Llanycil Church

Ewch i'r map

Bryn Fôn

Mae Bryn Fôn yn ganwr ac actor Cymreig adnabyddus, a anwyd yn Llanllyfni yn 1954, ac sy’n byw yn yr ardal o hyd. Mynychodd Ysgol Dyffryn Nantlle cyn astudio ymarfer corff ac astudiaethau’r amgylchedd yn y coleg. Mentrodd i’r byd adloniant yn 1977 drwy gymryd rhan yn yr opera roc Dic Penderyn. Ffurfiodd y grŵp Crysbas ar ôl gadael y coleg, ac yna Sobin a’r Smaeliaid yn 1988, a fu’n hynod lwyddiannus. Ef oedd yr artist cyntaf i berfformio’n fyw ar Radio Cymru yn 1977, ac mae Cymru’n ddyledus iddo am ehangu poblogrwydd pop Cymraeg ymysg ieuenctid. Enillodd y gystadleuaeth Cân i Gymru yn ystod yr 1990au, ac mae wedi rhyddhau nifer helaeth o albymau gyda Sobin ac fel canwr unigol. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar lwyfan Cymru, yn enwedig am ei ran yn y gyfres boblogaidd C’mon Midffîld. Yn dilyn yr ymgyrch llosgi tai haf yn 1979, ysgrifennodd gân yn bychanu’r heddlu am fethu dal y sawl oedd yn gyfrifol, ac fe’i harestiwyd ef a’i bartner yn 1990 o dan amheuaeth o gymryd rhan yn yr ymgyrch.

Bryn Fôn

Ewch i'r map

Bwlch y Groes

GwefanCliciwch Yma

Bwlch y Groes yw’r bwlch mynydd cyhoeddus uchaf yng Nghymru, yn arwain at Lanuwchllyn. Caiff ei adnabod fel ‘Hellfire Pass,’ ac fe’i defnyddiwyd gan gwmnïau moduron Austin a Triumph i brofi ceir prototeip.

Bwlch y Groes

Ewch i'r map

Canu Plygain - an old tradition

Mae Canu Plygain yn hen draddodiad Cymreig, sef canu carolau yng ngwasanaeth y plygain yn yr eglwys, fel arfer yng ngolau cannwyll ar fore Nadolig rhwng tri a chwech o’r gloch. Credir bod y gair ‘plygain’ yn golygu ‘ar ganiad y ceiliog,’ neu’n tarddu o’r gair ‘plyg,’ a cheir enghreifftiau o’r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar â’r 13eg ganrif. Roedd y traddodiad yn arbennig o lewyrchus yn ystod y 17eg ganrif, ond parhaodd yr arferiad o gyfansoddi a chanu tan ganol y 19eg ganrif. Cerddi hirion ar y mesurau rhydd oedd y carolau hyn, yn ymdrin â phynciau crefyddol, athroniaethol a seciwlar. Fel rhan o draddodiad gwerin poblogaidd y cyfnod, cenid y carolau yn ddigyfeiliant ar geinciau baledi adnabyddus, ac yn aml enwid y garol yn ôl fferm y teulu oedd yn ei chanu. Mae’r traddodiad yn parhau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, yn enwedig ym Maldwyn. Un o’r eglwysi sy’n cadw’r ddefod o ganu’r plygain yn fyw yw Eglwys Sant Tydecho yn Llanymawddwy, pentref bychan ar y ffordd rhwng Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn tros Fwlch y Groes.

St Tydecho, Llanymawddwy

Ewch i'r map

Caradog Pritchard

GwefanCliciwch Yma

Bardd, nofelydd a newyddiadurwr oedd Caradog Prichard – llenor a’i wreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Ogwen ond a dreuliodd ran helaeth o’i fywyd yn Llundain. Yn y ddinas gweithiodd i’r News Chronicle a’r Daily Telegraph a daeth ei gartref yno’n ganolfan gymdeithasol i Gymry alltud. Er yn byw yn Llundain, tystia nofel fwyaf adnabyddus Caradog Pritchard, Un Nos Ola Leuad (1961) i ddylanwad ei fro enedigol arno. Gyda Bethesda yn gefnlen iddi, mae’r nofel yn astudiaeth o wallgofrwydd. Ynddi, gwelwn adleisiau clir o gefndir Caradog Pritchard ei hun – absenoldeb y tad, salwch meddwl y fam, pwysau a rhagrith crefyddol a chymdeithasol. Cawn ynddi hefyd adnabyddiaeth gref o gymeriadau ac ardal Bethesda gyda’r nofel wedi ei hysgrifennu yn nhafodiaith yr ardal. Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1927, 1928 a 1929 a’r Gadair ym 1962 am ei awdl Llef Un yn Llefain. Yn ogystal â thair cyfrol farddonol, cyhoeddodd yr awdur gasgliad o storïau byrion a hunangofiant, Afal Drwg Adda (1973). Bu farw Caradog Prichard ym 1980 ac mae ei fedd yn rhan Eglwysig Mynwent Coetmor, Bethesda.

Caradog Prichard Gwisg yr Orsedd Gorsedd Robes 1957

Ewch i'r map

Ceir Gwyllt

GwefanCliciwch Yma

Nid Mustang nac Ferrari, ond tamaid main o bren wedi ei osod ar olwyn a rhoden o haearn trwyddo, yn rasio i lawr mynydd yng Nghymru ar 50 milltir yr awr.

Roedd cludo llechi i lawr y mynyddoedd o chwareli uchel Ffestiniog yn gamp gywrain o beirianwaith Fictoraidd.  Darparwyd yr ynni gan wagen llawn llechi’n mynd i lawr, ac yn tynnu wagen wag i fyny ar bâr o gledrau cul a redai hyd yr inclên.  Rhwng pob pâr o gledrau roedd rhaffan ddur yn rhedeg ar roleri, a gysylltai’r wagenni dibynnol.

Roedd gan chwarel Graig Ddu, i’r gogledd o’r Manod Mawr, dair inclên i gyrraedd i lawr i’r ffordd, a phedwerydd i gysylltu gyda’r rheilffordd oddi tanodd a redai i’r Blaenau.  Dyma’r ffordd i’r farchnad.  Hefyd, dyma’r ffordd cyflymaf adref i’r chwarelwyr wedi diwrnod caled o waith. © Huw Jenkins
 
Cliciwch ar y ddolen we uchod am fwy o wybodaeth am y ceir gwyllt gan Huw Jenkins
Y 'Car Gwyllt' a ddefnyddid gan chwarelwyr llechi Ffestiniog / The 'Car Gwyllt' which was used by the slate quarrymen

Ewch i'r map

Church of St Cadfan

Mae Tywyn yn enwog am eglwys Normanaidd Sant Cadfan, ble mae Carreg Cadfan, sy’n dyddio o’r wythfed neu’r nawfed ganrif. Mae’r enghraifft gynharaf o Gymraeg ysgrifenedig wedi’i arysgrifio arni. Cafodd yr eglwys ei anrheithio gan y Llychlynwyr yn 963, ac yn ystod y 12fed ganrif, ysgrifennodd Llywelyn Fardd gerdd gofiadwy amdani.

The Church of St Cadfan

Ewch i'r map

Chwilog

Agorwyd Ysgol Gynradd Chwilog ym 1908 gan Margaret Lloyd George, gwraig David Lloyd George. Adeiladwyd y pentref o amgylch gorsaf drenau Rheilffordd Sir Gaernarfon, a leolwyd yng nghanol y pentref.

Chwilog Primary School

Ewch i'r map

Cricceieth

Mae sillafiad Criccieth yn destun dadl hyd heddiw. Mae llawer yn ystyried bod y fersiwn hwn o’r enw yn Seisnigiad, ac y dylid defnyddio’r ffurf Cymraeg, Cricieth, yn lle hynny.

Cricceieth

Ewch i'r map

Damwain Awyren Ail Ryfel Byd

Ar noson 31 Mawrth 1943, cyhoeddodd RAF Bicester yn Swydd Rhydychen fod awyren Bristol Blenheim MkV1 gyda thri pherson arni ‘ar goll’. Ni chafodd RAF Llandwrog wybod am bron i bythefnos bod awyren wedi cael ei gweld yn disgyn i’r cwm rhwng Elidir Fawr ac Elidir Fach. Daeth criw o chwilwyr yr RAF o hyd iddi’r bore trannoeth. Roedd yn amlwg bod y tri wedi eu lladd ar unwaith. Ni ddaethpwyd â gweddillion yr awyren i lawr o’r mynydd tan y 1970au.

Bristol Blenheim MkV1

Ewch i'r map

Darllen y Ddeddf Derfysg

Ym 1809, cyhoeddodd Asheton-Smith ei fod am feddiannu holl diroedd comin Dinorwig er mwyn ei gwneud yn haws iddo agor ei chwarel lechi. Ar unwaith collodd y boblogaeth leol ddefnydd o’r tiroedd lle’r oeddent wedi arfer pori eu hanifeiliaid. Mewn ymdrech i rwystro Asheton-Smith, aeth dyn lleol o’r enw Ellis Evans ati i adeiladu tŷ unnos (i hawlio’r tir) yn Y Garnedd. Anfonwyd nifer o heddgeidwaid ac Ynad i’r Garnedd i ddymchwel y tŷ unnos. Gwnaeth hynny bethau’n waeth, ac yr oedd nifer fawr o ddynion a merched yn aros amdanynt ac yn taflu cerrig, mwd a dŵr poeth atynt. Cyhoeddodd yr Ynad y byddai’n rhaid iddo ‘ddarllen’ y Ddeddf Derfysg i’r dorf ac y byddai ‘n rhaid iddynt wasgaru ar unwaith. Ond nid oedd symud arnynt. Daeth rhagor o heddgeidwaid o Gaernarfon a charcharwyd wyth o derfysgwyr. O ganlyniad i’r hanes rhyfedd hwn, a wyddoch chi fod yr hawl i orfodi’r Ddeddf Derfysg yn Llanddeiniolen yn parhau hyd heddiw?
 

Y Ddeddf Derfysg T1 The Riot Act p1 Y Ddeddf Derfysg T2The Riot Act p2

Ewch i'r map

Dinas Mawddwy

GwefanCliciwch Yma

Gwasanaethwyd y pentref gan Reilffordd Mawddwy, rheilffordd lled safonol a gysylltai â Rheilffordd y Cambrian yng ngorsaf Glantwymyn. Fe’i hadeiladwyd i wasanaethu’r chwareli llechi ym Minllyn ac Aberangell.

Dinas Mawddwy village in the distance.

Ewch i'r map

Duffy (Aimée Ann Duffy)

GwefanCliciwch Yma

Cantores enwocaf Nefyn. Yn 2008 rhyddhaodd ei halbwm gyntaf hynod llwyddiannus Rockferry a gyrhaeddodd rhif 1 yn y siartiau Prydeinig, gan werthu dros 6 miliwn o gopïau dros y byd i gyd. Yn 2009 enillodd wobr Grammy a 3 gwobr BRIT. Ganwyd ym Mangor ar y 23ain o Fehefin, 1984, a’i magu yn Nefyn. Yn 10 oed symudodd i fyw yn Sir Benfro gyda’i mam a’i chwiorydd. Fe’i hysbrydolwyd yn gynnar iawn gan ffilmiau a rhaglenni cerddoriaeth fel Sister Act Whoopi Goldberg a’r rhaglen Ready, Steady, Go! Roedd yr awydd i ganu ynddi o hyd, er iddi orfod gadael côr yr ysgol gan fod ei llais hi “rhy fawr”! Yn 2003 ymddangosodd ar y rhaglen dalent Gymreig Wawffactor a dod yn ail; disgrifiodd y profiad fel yr amser gwaethaf yn ei bywyd, a phenderfynodd gyfansoddi cerddoriaeth iddi hi ei hun yn unig. Symudodd i Lundain yn 2004 a chychwyn cydweithio gyda Bernard Buttler, cyn gitarydd y band Suede. Yn 2007 arwyddodd gytundeb gydag A&M Records ac ers hynny mae ei gyrfa wedi bod yn un llewyrchus.

Aimée Ann Duffy

Ewch i'r map

Gorsaf Bŵer Hydro Maentwrog

GwefanCliciwch Yma

Mae’r orsaf bŵer hydro ym Maentwrog wedi bod yn cynhyrchu trydan ers 1928, a bwriedi’r iddi barhau i weithio tan 2088. Dim ond hanner ffordd drwy ei hoes gwaith mae’r orsaf felly! Mae hyn yn cymharu’n dda gyda’r chwech ar hugain o flynyddoedd o fodolaeth yr orsaf bŵer niwclear uwchben yn Nhrawsfynydd, ac nad fydd wedi ei llwyr ddigomisiynu tan 2098!

Cafodd gorsaf Maentwrog ei hadeiladu gan y North Wales Power and Traction Company, a gododd orsafoedd hydro yn Nolgarrog a Chwm Dyli, rhwng Capel Curig a Beddgelert hefyd. Pam “Traction”? Yn 20au cynnar y ganrif ddiwethaf, roedd gan y cwmni gyfrannau rheolaethol yn Rheilffyrdd Ffestiniog, Ucheldir Cymru (neu Lein Fach Beddgelert), a Thrên Bach yr Wyddfa, a’r bwriad oedd cyflenwi trydan iddynt. © Huw Jenkins

Cliciwch ar y ddolen we uchod am fwy o wybodaeth gan Huw Jenkins

Maentwrog

Ewch i'r map

Gruff Rhys

GwefanCliciwch Yma

Mae Gruff Rhys yn gerddor Cymraeg adnabyddus, fel perfformiwr unigol ac aelod o fand llwyddiannus y Super Furry Animals a oedd yn eu hanterth yn ystod yr 1990au. Ganwyd Gruffydd Maredudd Bowen Rhys yn Hwlffordd, sir Benfro yn 1970, i’r Cymro gwladgarol Ioan Bowen Rees. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Graddiodd mewn celf ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, cyn mynd ymlaen i fwynhau gyrfa amrywiol fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd. Mae’n gerddor amryddawn a all droi ei law at y gitâr, yr allweddellau, saz a drymiau, yn ogystal â chanu ei hun. Ar ôl chwarae drymiau i’r band Emily, daeth i amlygrwydd yng Nghymru yn gyntaf fel prif leisydd y band Ffa Coffi Pawb, un o’r grwpiau Cymreig mwyaf poblogaidd a ryddhaodd dri albwm. Yn 1993, daeth yn lleisydd a chwaraewr gitâr i’r Super Furry Animals, a chawsant lwyddiant enfawr gydag albymau Cymraeg a Saesneg hyd heddiw, a bu galw mawr amdanynt mewn gwyliau cerddorol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mentrodd fel perfformiwr ar ei liwt ei hun a chynhyrchodd ddau albwm. Yn ddiweddar, ffurfiodd y grŵp pop-electro Neon Neon.

Ewch i'r map

Gwyn Thomas

GwefanCliciwch Yma

Ganwyd yr Athro Gwyn Thomas yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog yn 1936. Mae’n fardd ac ysgolhaig cydnabyddedig gyda chorff eang o weithiau llenyddol ac academaidd. Mae wedi cyhoeddi 16 cyfrol o farddoniaeth yn cynnwys Chwerwder yn y Ffynhonnau (1962), Enw’r Gair (1972) ac Apocalups Yfory yn (2005). Yn academaidd, mae wedi cyhoeddi nifer o astudiaethau a beirniadaethau llenyddol yn ogystal â chyfieithu’r Mabinogi i’r Saesneg. Cyhoeddodd Y Traddodiad Barddol yn 1976 - astudiaeth nodedig o’r traddodiad barddol yng Nghymru ac ymgais fwriadol i wneud y traddodiad canu caeth yn fwy hygyrch i’r darllenwr Cymraeg modern. Mae’r llenor wedi arbrofi â sawl cyfrwng llenyddol gan gynnwys astudiaethau ar y ddrama yn Ewrop a chyhoeddi dramâu ei hun - Lliw’r Delyn (1969) ac Amser Dyn (1972). Penodwyd Gwyn Thomas yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 1961 a rhoddwyd cadair bersonol iddo yn 1980. Daeth yn Bennaeth yr Adran yn 1992. Yn 2006, penodwyd ef yn Fardd Cenedlaethol Cymru ac yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd hunangofiant yn dwyn y teitl Bywyd Bach.
 

Llun o / Picture of : Gwyn Thomas

Ewch i'r map

Led Zeppelin

GwefanCliciwch Yma

Mae cysylltiad diddorol rhwng ardal Pennal â’r band enwog Led Zeppelin. Ym mwthyn anghysbell gerllaw’r pentref, y cafodd Jimmy Page a Robert Plant y syniad am y clasur roc ‘Stairway to Heaven.’ Yn y llecyn hardd hwn cawsant ysbrydoliaeth i gyfansoddi nifer o ganeuon eraill, fel ‘Bron-Yr-Aur Stomp’ a ‘Bron-Yr-Aur’. Dywedodd Jimmy Page fod y caneuon hyn wedi newid trywydd y band.

Mae diddordeb Robert Plant mewn geiriau cyfriniol hefyd yn deillio o’i brofiadau yng Nghymru: oherwydd iddo gael ei fagu yn agos i’r ffin, fel plentyn ymwelodd yn aml â mynyddoedd cyfareddol Eryri. Prynodd fferm ddefaid Cymreig yn 1973, a dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ac ymchwilio i'n chwedlau.

Ewch i'r map

Llanbedrog

Yn 1856, adeiladwyd tŷ agweddi, "Plas Glyn-y-Weddw", ar gyfer Y Fonesig Love Jones Parry. Mae’r tŷ bellach yn ganolfan bwysig ar gyfer y celfyddydau.

Llanbedrog Plas Glyn Y Weddw

Ewch i'r map

Llwybr Cynhebryngau

Un o'r bythynof hynnal yn y Mhlwyf llanddeiniolen yw Penybryn ger Dinas Dinorwig a adeiladwyd tua 1650 fel tŷ hir traddodiadol gyda’r teulu yn byw yn un pen a’r anifeiliaid yn y pen arall. Dengys cofnodion y plwyf bod 27 o blant, merched a dynion wedi marw yn y bwthyn yn ystod y 18fed ganrif. Oherwydd nifer y cynhebryngau bu’n rhaid creu llwybr arbennig i gludo’r meirw i’r eglwys.

Mae’r Llwybr Cynhebrwng yn llwybr ceffyl erbyn hyn. / The Funeral Path now serves as a bridleway.

Ewch i'r map

Llynnau Cregennen

Mae Llynnau Cregennen yn gorwedd yng nghysgod Cadair Idris sy'n dominyddu’r amrediad mynyddol i'r de o Ddolgellau. Efallai y bydd y llyn adnabyddus gan i’r ardal gael ei ddefnyddio yn y gyfres deledu Merlin sy'n serennu Sam Neill.

Yn y gyfres ‘roedd Morwyn y Llyn, a oedd yn gwisgo cadwyn o bysgod nofio byw, yn byw yn y Llyn.

Llynnau Cregennen Lakes

Ewch i'r map

Michael D. Jones (1822 – 1898)

GwefanCliciwch Yma

Gwladgarwr enwog ac un o dadau cenedlaetholdeb y Gymru gyfoes. Fe’i ganwyd yn Llanuwchllyn, yn fab i Michael Jones, prifathro’r coleg diwinyddol yn Bala. Yn 1837 ymwelodd ag America, lle cymerodd rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol y Cymry a ymfudai yno. Bu’n un o sylfaenwyr Cymdeithas y Brython a ffurfiwyd i gynorthwyo ymfudwyr newydd i’r wlad. Dychwelodd i Gymru yn 1850 ac aeth i weithio fel gweinidog yn Sir Gaerfyrddin. Ar farwolaeth ei dad penodwyd ef yn olynydd iddo fel prifathro’r coleg a gweinidog ar eglwysi’r Bala . Fel ei dad, roedd ei yrfa yn un cythryblus iawn. Roedd anghytundeb dwys rhyngddo a rhai aelodau eraill o bwyllgor y coleg. Aeth yr anghytgord mor bell fel y rhannwyd y coleg yn ddau rhyngddo ef a’i wrthwynebwyr, ond yn 1892 ymddiswyddodd er mwyn hwyluso uno’r coleg unwaith eto.
Magwyd ysbryd cenedlaetholgar tanllyd ynddo gan ormes tirfeddianwyr Torïaidd Cymru. Mae’n debyg mai dyma pam yr oedd mor frwd yn ei gefnogaeth ac mor hael yn ei gymorth ariannol i’r wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
 

Pioneer – of Welsh freedom – lived here in Bodiwan Bodiwan

Ewch i'r map

Morfa Bychan

Mae traeth Morfa Bychan, neu Black Rock Sands yn y Saesneg, yn ymestyn am ddwy filltir o ben dwyreiniol Ynys Cyngar (sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ar aber Afon Glaslyn ar hyd Bae Tremadog i draeth Criccieth, sy’n hygyrch pan fo’r môr ar drai.

Black Rock Sands

Ewch i'r map

Mynytho

Mae gan neuadd goffa Mynytho le pwysig yn y frwydr i gael cydnabyddiaeth i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Mynytho Memorial Hall

Ewch i'r map

Padarn Lake

Gyda dyfnder o ychydig dros 30m (100 troedfedd), Llyn Padarn yw'r chweched llyn dyfnaf yng Nghymru. Mae o wedi ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd bod ei ddyfroedd twfn yn gartref i'r Torgoch Arctig, pysgodyn prin o Oes yr Iâ ddiwethaf. Fe welir Dŵr Lynad prin yn tyfu yn y llyn hefyd. Yn ogystal â'r enghreifftiau o ffurfiau bywydol anghyffredin yma mae Llyn Padarn hefyd yn bwysig oherwydd fe welir yma greigiau cyn-Cambriaidd yn cael eu gorchuddio gan greigiau Cambriaidd.

Llyn Padarn

Ewch i'r map

Porth Madryn

GwefanCliciwch Yma

Mae'r arwydd yn datgan fod Nefyn wedi'i efeillio gyda Puerto Madryn, tref yn yr Ariannin Puerto a sefydlwyd gan gwladychwyr Cymreig a lle siaredir y Gymraeg hyd heddiw. Mae'n briodol y dylid Nefyn, tref sydd wedi magu cymaint o forwyr, wedi'i efeillio gyda thref nid yn Ewrop agos ond yn Ne America. Yn yr un modd ag yr ariannwyd trefedigaethau amaethyddol Iddewig yr Ariannin gan Barwn Hirch, cafwyd cefnogaeth ariannol prosiect gwladychu'r Cymry gan 'Baron' Love Jones-Parry o Gastell Madryn, 3 milltir i'r de-orllewin o Nefyn. Roedd mewn anrhydedd i'r afradus Jones-Parry, a fu farw heb geiniog ar ôl treulio'r ei £ 6,000 diwethaf ar bet ar geffyl, y galwyd Porth Madryn, Puerto Madryn erbyn hyn, ar y setliad cychwynnol.

Ewch i'r map

Porthor

Gelwir traeth Porthor  ‘Whistling Sands,’ oherwydd i’r tywod arbennig chwibanu wrth gerdded arno, nad oes ond un arall o’i fath drwy Ewrop.

 

 

 

Traeth y Gogledd Porth Oer : North Beach Porth Oer

Ewch i'r map

Pwerdy Bach Llanuwchllyn

GwefanCliciwch Yma

Yn 1910 adeiladodd Richard Edwards a’i fab Antur olwyn ddŵr er mwyn creu trydan ar gyfer gweithdy’r fferm. Codwyd argae ar Afon Twrch rhyw hanner milltir o’r pentref, a bu tri gwr wrthi am flwyddyn gyfan yn tyllu ffos i gludo’r dwr oddi yno at yr olwyn. Rhai blynyddoedd wedyn newidiwyd yr olwyn ddŵr am dyrbin mwy, a chodwyd adeilad am y gwaith, sef y pwerdy bach sy’n sefyll heddiw. Anarferol iawn oedd cael trydan mewn pentref mor anghysbell a Llanuwchllyn, ac o’r herwydd cred rhai mai hwn oedd y pentref cyntaf yng Ngogledd Cymru i gael pŵer o’r fath. Mae’r hen dyrbin yn parhau hyd heddiw i bweru dau dy’r teulu.

Pwerdy Powerstation

Ewch i'r map

Quays

Yn gynnar yn y 19eg ganrif, yr oedd ceiau ar afon Dyfi, a chludai pynfeirch lechi o’r chwareli o amgylch Corris, Aberllefenni ac Abergynolwyn, i’w llwytho ar longau mordwyol. Daeth y fasnach hon i ben pan adeiladwyd rheilffyrdd o Gorris i Fachynlleth ac o Dalyllyn i Dywyn.

Quays

Ewch i'r map

R Williams Parry

GwefanCliciwch Yma

Robert Williams Parry (1884-1956) yw un o feirdd enwocaf Cymru. Fe’i ganwyd yn Nhalysarn yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn gefnder i’r llenor nodedig T.H.Parry-Williams. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru am ddwy flynedd, ond gadawodd heb radd ac aeth i ddysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr. Yn 1907, dychwelodd at ei astudiaethau yng Ngholeg Prifysgol Bangor y tro hwn, a graddiodd yn 1908. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Colwyn yn 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd o’r cyfnod rhamantaidd a enillodd iddo’r teitl ‘Bardd yr Haf.’ Treuliodd ddwy flynedd yng ngwersylloedd y fyddin yn Lloegr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gyfansoddodd rai o’i gerddi mwyaf adnabyddus, fel englynion coffa i Hedd Wyn a sonedau am y rhyfel. Bu’n athro mewn nifer o ysgolion cyn ymuno â staff Coleg Prifysgol Cymru, Bangor fel darlithydd yn adran y Gymraeg. Cyhoeddwyd dau gasgliad o’i gerddi, Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cerddi’r Gaeaf (1952). Ymysg ei farddoniaeth mwyaf poblogaidd mae Y Llwynog ac Eifionydd, cerddi coeth a oedd yn cynnig sylwebaeth ar y wlad, natur a chyflwr dyn.

Cofeb R Williams Parry Memorial

Ewch i'r map

Roman Fort

Yr oedd yn safle caer Rufeinig fechan, o’r enw Cefn Caer yn y Gymraeg, a oedd yn gwarchod rhyd neu groesfan fferi ar afon Dyfi ar ffordd Rufeinig Sarn Helen. Mae gweddillion y gaer yn gorwedd o dan dŷ o’r enw Cefn Caer, sy’n dyddio o’r 14eg ganrif ac yn edrych i lawr ar y pentref.

Roman Fort Cefn Caer

Ewch i'r map

Sant Pedrog

GwefanCliciwch Yma

Sant o'r 6ed ganrif oedd Sant Pedrog a bu ganddo weinidogaeth genhadol ar draws y gwledydd Celtaidd - yng Nghymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw. Yn fab i’r Brenin Glywys Cernyw, tybir iddo wrthod y llwybr brenhinol disgwyliedig gan droi tuag at genhadaeth grefyddol a’i harweiniodd hyd wledydd Prydain, Ewrop a thu hwnt. Yn ystod ei bererindodau, credir iddo ymweld â Jerwsalem, Rhufain ac India. Yn ôl yng Nghernyw, cofnodir hanesyn amdano’n gorchfygu sarff enfawr a fu’n llarpio gelynion y Brenin Teudar o Benwith. Wrth bererindota rhwng Cernyw a’r Iwerddon y credir iddo sefydlu’r eglwys yn Llanbedrog, megis dwy eglwys arall ar arfordir Cymru – un ym Mhenfro a’r llall yn Aberteifi. Nid yw’r eglwys a sefydlodd Sant Pedrog yn Llanbedrog yn y 6ed ganrif yn sefyll bellach ond erys y cysylltiad yn enw’r eglwys bresennol ac enw’r pentref. Bu farw Sant Pedrog yn y flwyddyn 564 ac mae’r gasgen sy’n cynnwys ei weddillion yn cael ei chadw yn y mynachdy a sefydlwyd ganddo ym Modmin, Cernyw.

Ewch i'r map

Streic Chwarel y Penrhyn

GwefanCliciwch Yma

Yr oedd streic Chwarel y Penrhyn , â barhaoedd o fis Tachwedd 1900 hyd fis Tachwedd 1903, yn un o’r anghydfodau diwydiannol hwyaf yn y Deyrnad Gyfunol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1990 Chwarel Bethesda Quarry Library of Congress, Prints and Photographs Division, Washington, D.C.

Ewch i'r map

Ted Breeze Jones

GwefanCliciwch Yma

Ted Breeze Jones oedd un o naturiaethwyr amlycaf Cymru yr 20fed ganrif, yn aderydd heb ei ail, athro brwdfrydig, naturiaethwr penigamp, ffotograffydd dawnus, awdur toreithiog a darlledwr hamddenol a gwylaidd.  Fe'i disgrifir fel gwr y wên lydan a thrwy ei frwdfrydedd heintus bu'n gyfrifol am ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o naturieithwyr. Hannai o Flaenau Ffestiniog, ardal a barhaodd yn agos at ei galon ar hyd ei oes, Crwydrodd sawl cyfandir yn cofnodi rhyfeddodau byd natur ond fe'i cofir am ei gyfraniad aruthrol i Gymru a'r Gymraeg drwy ei lyfrau a'i ysgrifau, ei waith ar radio a theledu ac am datblygu storfa o enwau adar yn y Gymraeg.

Ted Breeze Jones

Ewch i'r map

The Narrow Gauge Railway Museum

Ail-gartrefwyd yr amgueddfa mewn adeilad pwrpasol ym mhrif orsaf Rheilffordd Talyllyn yn ddiweddar, Ei nod yw adrodd hanes rheilffyrdd cul ymhob cwr o Ynysoedd Prydain. Lle diddorol i dreulio awr neu ddwy, hyd yn oed os nad ydych yn wyliwr trenau! Mynediad am ddim.

The Narrow Gauge Railway Museum

Ewch i'r map

Tregarth

GwefanCliciwch Yma

Bethesda oedd lleoliad y streic tair blynedd enwog dan Arweiniad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, a gychwynnodd ym 1900. Arweiniodd hyn at adeiladu pentref cyfagos Tregarth, a godwyd gan berchnogion y chwarel i gartrefu teuluoedd y gweithwyr na wnaeth streicio.

Cycle Path, Tregarth

Ewch i'r map

W J Gruffydd: Academydd, Bardd, Awdur, Gwleidydd

GwefanCliciwch Yma

Un o feibion enwocaf y plwyf oedd WJ Gruffydd: bardd, llenor ac ysgolhaig. Fe’i ganwyd ym Methel ar 14 Chwefror 1881, yn fab i chwarelwr. Ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Bethel ac Ysgol Caernarfon aeth i Goleg Iesu, Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn y Llynges bu’n darlithio yn Adran Geltaidd Prifysgol Caerdydd am weddill ei yrfa. Roedd yn arbenigwr ar y Mabinogi, a chyhoeddodd sawl llyfr pwysig ar hanes llenyddiaeth Cymru. Bu farw ym 1954 ac fe’i gladdwyd ym mynwent yr eglwys.

Plac yn nodi man geni W.J. Gruffydd / Plaque commemorating the birthplace of W.J. Gruffydd

Ewch i'r map

Yr Hen Ffordd Rufeinig o'r Gogledd i'r De

Ffordd Rufeinig yw Sarn Helen neu Sarn Elen a oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol Cymru, o gaer Canovium (Caerhun) yn y gogledd hyd at gaer a thref Maridunum (Caerfyrddin) yn y de – ffordd sydd oddeutu 160 milltir o hyd. Mae’n bosibl yr enwyd y sarn ar ôl Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig. Er nad oes olion i’w gweld ar rannau o’r ffordd, credir bod y lôn yn cychwyn yng Nghaerhun ac yn mynd drwy Drefriw, Cwm Penmachno a Ffestiniog, Trawsfynydd, Brithdir ger Dolgellau, ac yna at Pennal. O’r fan yma mae’n gadael Gwynedd a mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.

Sarn Helen

Ewch i'r map

Flickr