Mae’r daith gerdded hon yn mynd â chi ar hyd un o’r darnau harddaf o arfordir Penrhyn Llŷn ac yn eich cyflwyno i’r amrywiaeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd hardd yn yr ardal – ar hyd arfordir trawiadol o glogwyni dramatig a rhostiroedd arfordirol, ar draws ffermdir agored ac i lawr i gymoedd cysgodol, a’r cyfan yn erbyn cefndir dramatig Bae Ceredigion a bryniau a mynyddoedd Eryri gerllaw. Sylwer bod llawer o lwybrau troed cysylltiol yn yr ardal os ydych yn dymuno gwneud eich taith yn fwy neu’n llai. Mae’r tir yn eithaf gwastad ar hyd y llwybrau troed da a’r ffyrdd bychain, gyda dim ond ychydig gamfeydd i’w dringo. Cofiwch oruchwylio’r plant yn ofalus oherwydd mae rhai clogwyni peryglus ar ymyl y llwybr mewn rhai mannau.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Bydd taith gerdded fer o’r maes parcio ym mhen gorllewinol Llyn Ogwen yn eich arwain i Gwm Idwal. Mae Cwm Idwal nid yn unig yn enghraifft glasurol o dirlun sydd wedi’i lunio’n grefftus gan rewlifiant ond hefyd mae’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Gallwch ddewis y daith fer at y llyn a mwynhau’r tirlun cwbl drawiadol hwn neu fynd ar daith gylch hirach i gyfeiriad Twll Du. Mae’r ardal, a ddefnyddiwyd yn y gorffennol ar gyfer chwarelu a phori, dan gyfyngiadau pori llym ar hyn o bryd er mwyn gwella’r amodau ar gyfer y planhigion artig alpaidd sydd i’w canfod yma, ac mae’n llecyn poblogaidd ymhlith naturiaethwyr brwd, cerddwyr a dringwyr.
Mae’r reid hon ar drên ar hyd lein reilffordd Ffestiniog ac yna’r cerdded yn ôl yn gyfle gwych i chi brofi coetiroedd derw digoes de Eryri, sy’n un o’r ardaloedd pwysicaf ar gyfer cadwraeth natur coetiroedd yn Ewrop.
Disgrifir y math yma o goetiroedd Atlantaidd fel “fforestydd glaw tymherus” yn aml iawn, gan fod yr hinsawdd mor llaith ynddynt drwy’r adeg a chan fod llawer o redyn a chen ynddynt, a chyfoeth o fwsoglau a llysiau’r afu. Y dderwen ddigoes orllewinol yw’r goeden fwyaf nodweddiadol yn y coetir yma, ynghyd â sawl bedwen. Ar lawr y coetir, rydych yn debygol o weld glaswelltau, rhedyn ac weithiau, clytiau mawr o rug neu lus. Gall y mwsoglau a llysiau’r afu, sy’n arbennig i’r ardal hon, ffurfio carpedi gwyrdd helaeth dros feini mawr a boncyffion coed, gan ymledu i fyny wyneb y graig ar draws y pridd mawnog tenau. Mae amrywiaeth eang o gen hardd yn addurno’r coed, yn enwedig lle ceir golau da ynddynt ger y llennyrch, neu ar hyd ymylon y coetir. Mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau prin i’w canfod ar y derw digoes, sydd hefyd yn gartref yn ystod yr haf i’r gwybedog brith bach a’r tingoch trawiadol.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau