| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Cors y Sarnau’n gors ar dir isel mewn dyffryn, cynefin prin bellach ar dir isel ym Mhrydain. Mae’r gwaddodion mawn sydd wedi cronni dros y canrifoedd yn deillio o weddillion y Mwsogl Cors (rhywogaethau o Sphagnum) sydd heb bydru’n ddigonol ac sy’n dal i ffynnu ar ran helaeth o’r arwyneb. Mae’r mawn wedi llenwi’r llyn gwreiddiol wedi i ddŵr tawdd ddianc ar hyd y dyffryn o’r rhewlifau. Ceir planhigfa goedwigol ar y tir uwch i’r de orllewin tra bo coetir gollddail wlyb wedi ymsefydlu ar gyrion y gors, wrth ymyl yr A494.
Oherwydd y lefel trwythiad cyson uchel ledled y safle, anogir ymwelwyr i gadw at y llwybrau troed bob amser. Er y gall llystyfiant y gors ymddangos fel pe bai’n ddigon cryf i gynnal pwysau, ni fydd esgidiau cyffredin yn cadw eich traed yn sych ac mae perygl i chi suddo ymhell y tu hwnt i’ch fferrau yn y mannau gwlypaf.
Dŵr yw’r ffactor unigol pwysicaf sy’n rheoli’r amgylchedd naturiol yma. Ceir draen drwy ganol y gors yn ymuno ag Afon Meloch. Mae’r dŵr yn llifo o blanhigfa Tŷ Uchaf y Comisiwn Coedwigaeth ac o’r tir amaethyddol i fyny’r afon. Mae’n gadael llifddor yn y gornel dde orllewinol yn y warchodfa, a osodwyd er mwyn cynnal lefel trwythiad uchel a thrwy hynny ffafrio’r llystyfiant corsiog perlysieuol a cheisio atal y rhywogaethau coediog rhag ymsefydlu.
Tua ymyl y gors agored ac mewn ardaloedd eraill lle mae lefel trwythiad y tir yn tueddu i fod o dan yr arwyneb am gyfnodau maith, gall egin-goed sefydlu. Bydd hadau o goed collddail a chonwydd cyfagos yn tueddu i ymsefydlu os na chedwir llygaid arnynt ond mae’r rheolaeth ar y rhannau gwlypaf o’r warchodfa’n cynnal y llystyfiant cors agored. Lle mae ymylon y gors yn goed collddail i gyd, Gwerni a Helyg yn bennaf, mae llawr y coetir yn wlyb yn rheolaidd ac, o ganlyniad, mae’n cefnogi mwsoglau sydd wedi datblygu’n dda a phlanhigion rhedynog. Mae hefyd yn cynnig cyfoeth o ffwng.
Mae gan Gors y Sarnau amrywiaeth cyfoethog o gymunedau o blanhigion gan adlewyrchu: natur ddeinamig yr olyniaeth o gynefinoedd wrth i’r gwlybdir dueddu i sychu’n raddol; mân-amrywiaethau yng nghemeg y pridd a’r topograffi; a’r rheolaeth ar y safle yn y gorffennol. Ychydig o ddŵr agored sydd ar ôl bellach ond mae’r gors a’r cymunedau o goetir gwlyb yn ffynnu.
Ceir llawer o Fwsoglau Cors yn yr ardaloedd asidig. Mae’r ardaloedd llai asidig yn cynnwys mwy o amrywiaeth o blanhigion, sy’n tueddu i gynnwys mwy o hesg a brwyn. Ymhlith yr enghreifftiau mae: Hesg Gylfinfain, Brwyn Blodeufain a Phumbys atyniadol y Gors. Mae’r ardaloedd mwy asidig o goetir gwlyb yn tueddu i fod yn gartref i Helyg Llwyd a Bedw Cyffredin, gyda Gwellt y Gweunydd a Hesg Rhafunog Mwyaf islaw. Mae’r ardaloedd llai asidig yn tueddu i ffafrio Gwerni gyda’r Hesg Rhafunog Mwyaf a’r Eglyn Cyferbynddail byr ond trawiadol islaw.
Nid yw’r casgliad o adar yn eithriadol gyfoethog yma ond gellir clywed y Troellwr Bach a Thelor yr Hesg (ymwelwyr yn yr haf) ymhlith y llwyni a’r cawn a gwelir Corhedydd y Waun a Chorhedydd y Coed (ymwelydd haf) mewn heidiau bychain ar y glaswelltir agored, gyda’r Llinos a’r Nico. Gellir gweld Nadroedd Gwair yn y darnau gwlypach o’r safle a Medfyll Cyffredin yn y rhannau sychach ac ar y waliau. Fel y rhan fwyaf o’r corsydd ar dir isel, mae Cors y Sarnau’n gartref i amrywiaeth da o bryfed, gyda mwy na 200 wedi’u cofnodi, yn cynnwys mwy na 120 o rywogaethau o chwilod.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau