“Rwyf wedi teithio dros y byd i gyd yn chwilio am fywyd gwyllt cyfareddol, ond rwyf bob tro'n dychwelyd i Wynedd. Am ei hamrywiaeth wych o fywyd gwyllt syfrdanol wedi ei osod yn erbyn cefndir dramatig ei ynyddoedd a'r arfordir, does nunlle yn debyg!”

Bâs Data Rhywogaethau


Iolo Williams, naturiaethwr a cyflwynydd teledu

Aderyn Drycin Manaw

1

Mae gan yr aderyn drycin bach hwn adenydd hir, syth, main ac maent yn ddu ar y top ac yn wyn oddi tanodd. Mae’n dechrau hedfan drwy chwifio’i adenydd stiff yn gyflym ac yna’n gleidio’n hir ar adenydd syth uwch ben wyneb y môr, ac weithiau gwibio a thorri’n ôl ac ymlaen drwy’r awyr, gan godi ei adenydd am yn ail.

Mae’n magu mewn heidiau yn y DG, ar ynysoedd oddi ar y lan, lle mae’n ddiogel rhag llygod mawr ac ysglyfaethwyr eraill y tir. Mae mwy na hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw i’w canfod yng Nghymru, gyda hyd at 16,000 o barau ar Ynys Enlli pan mae’r tymor magu yn ei anterth. Mae’r adar yn gadael eu safleoedd nythu ym mis Gorffennaf i fudo i arfordir De America, lle maent yn treulio’r gaeaf ac yna’n dychwelyd ddiwedd mis Chwefror ac ym mis Mawrth.

Yr amser gorau i’w gweld nhw yw rhwng misoedd Mawrth a Gorffennaf.

Y lle gorau yng Ngwynedd i’w gweld nhw yw ar Swnt Enlli, o Fynydd Mawr, ac o DraethCriccieth a Thraeth y Graig Ddu.          

Morlo Llwyd

2

Y Morlo Llwyd, a elwir hefyd yn Forlo Llwyd yr Iwerydd, yw’r morlo mwyaf yn magu sydd i’w ganfod ym Mhrydain ac mae tua hanner poblogaeth y byd i’w chanfod ar hyd arfordir y DG. Mae dau rywogaeth o forloi i’w canfod yma; y llall yw morlo’r harbwr (neu’r morlo cyffredin), fodd bynnag, y morlo llwyd yw’r un mwyaf cyffredin o amgylch arfordir Gwynedd. Maent yn greaduriaid chwilfrydig a gellir eu camgymryd yn aml iawn am fwïau pysgota. Er eu bod yn ymddangos yn eithaf trwsgl ar dir, o dan y dŵr, gallant symud yn dwyllodrus o gyflym ac maent yn anhygoel o osgeiddig a chwareus. 

Gellir eu gweld drwy gydol y flwyddyn ond yr amser gorau i’w canfod yw pan maent wedi dod i’r lan i fagu neu fwrw eu croen. Maent yn tueddu i eni rhai bach rhwng misoedd Medi a Rhagfyr, a’r misoedd brig ar gyfer hyn yw Hydref a Thachwedd, felly cadwch lygad am y morloi bach gyda’u ffwr gwyn yn ystod y misoedd hyn.

Y man gorau yng Ngwynedd ar gyfer eu gweld yw Penrhyn Llŷn, lle ceir dwy boblogaeth o forloi llwyd; mae un wedi’i lleoli ar hyd y gadwyn o ynysoedd a elwir yn Ynysoedd Sant Tudwal a’r llall ar draethau Ynys Enlli.

© NE Photography

Llamhidydd

3

Mae llamhidyddion yr harbwr yn adnabyddus am eu hoffter o rasys llanwol a cherrrynt fel sydd i’w canfod dan bentiroedd ac allgreigiau arfordir Gwynedd. Maent i’w canfod yn aml yn bwydo’n wyllt adeg rasys llanwol, gydag adar môr yn dilyn pob symudiad o’u heiddo. Dyma’r rhywogaeth lleiaf, a’r mwyaf cyffredin o bell ffordd, o’r morfilod (y morfil, doffiniaid a llamhidyddion) sydd i’w ganfod yn nyfroedd Cymru ac mae’n fyrdew gyda chorff llwyd tywyll, sy’n cyfuno gyda gên wen a bol oddi tanodd. Mae ganddo asgell ochrol fechan, siâp triongl, heb big amlwg o gwbl. Yn wahanol i’w gefnder llawn miri, y dolffin trwyn potel, mae llamhidydd yr harbwr yn tueddu i fod yn swil, gan gadw draw oddi wrth unrhyw gychod a wêl.

Gellir ei weld drwy gydol y flwyddyn yn nyfroedd Gwynedd ond mae’n haws i’w ganfod yn ystod misoedd yr haf, pan mae’r dyfroedd yn tueddu i fod yn llai tymhestlog. Cadwch lygad am y llamhidyddion wrth iddynt rolio i’r wyneb.

Ymhlith y mannau gorau yng Ngwynedd ar gyfer gweld y llamhidyddion mae Mynydd Mawr ym mhen draw Penrhyn Llŷn.

© NWWT

Eithin

4

Ceir llwyni o eithin yng Ngwynedd lle bynnag mae’r pridd yn ysgafn a lle ceir draenio rhydd, mewn ardaloedd sy’n gymharol rydd o rew trwm. Mae’r blodau melyn llachar gydag arogl cnau coco arnynt yn nodwedd arbennig yng Ngwynedd.  Mae’r eithin yn bwysig iawn i adar ac infertebrata. Mae’r ffaith ei fod yn blodeuo drwy gydol y flwyddyn wedi arwain at greu dywediad am yr eithin: “Os nad yw’r eithin yn ei flodau, mae’n well cadw eich cusanau".

Mae eithin y gorllewin yn ei flodau rhwng misoedd Gorffennaf a Medi tra bo’r eithin Ewropeaidd mwy’n blodeuo rhwng misoedd Ionawr ac Awst.

Mae rhostiroedd arfordirol Penrhyn Llŷn yn lleoliad rhagorol i weld eithin yng Ngwynedd.

© Ray Wood 2010

Brân Goesgoch

5

Er bod ei phlu du yn dangos yn glir i ni mai brân yw hi, mae gan y frân goesgoch big a choesau coch, yn wahanol i unrhyw aelod arall o deulu’r brain. Mae dosbarthiad yr aderyn hwn wedi’i gyfyngu i’r gorllewin ar Ynysoedd Prydain, ac oherwydd mai poblogaeth fechan sydd ganddo, gyda’r boblogaeth honno’n dirywio’n hanesyddol hefyd, mae wedi’i restru fel Rhywogaeth o Bryder Cadwriaethol Ewropeaidd. Er gwaethaf hyn, mae’r niferoedd yng Ngwynedd yn cynyddu ac mae’r alwad chee-ow uchel fel cloch yn dod yn sain cyfarwydd ar hyd yr arfordir, yn ogystal ag yn y mynyddoedd. Mae’r frân goesgoch yn barod iawn i ddangos ei champau wrth hedfan, gydag arddangosfa o ddeifio a phlymio medrus yn yr awyr.

Gellir gweld y frân goesgoch drwy gydol y flwyddyn ond maent yn tueddu i ymgynnull yn heidiau yn yr hydref a’r gaeaf.

Y mannau gorau i’w gweld yw Mynydd Mawr, Mynydd Anelog a Mynydd Carreg, Trefor, Ceudyllau Llechi Llechwedd, Mynydd Cilan, Porth Ysgadan i Draeth Penllech, Penrhyn Cwmistir, Nant Gwrtheyrn a Chwarel Carreg y Llan. 

Cigfran

6

Gwelir yr aelod mawr, du i gyd yma o deulu’r brain ar hyd a lled hemisffer y gogledd a dyma’r ehangaf ei dosbarthiad o’r brain i gyd. Mae’n fwy na bwncath o ran maint, gyda phig mawr, adenydd hir ac, wrth hedfan, mae ei chynffon yn siâp diemwnt. Mae sain crawc ddofn y gigfran, yn adleisio oddi ar y creigiau yn yr amgylchedd mynyddig sydd i’w weld mewn rhannau helaeth o Wynedd, fel petai’n arwydd bron o harddwch eang a garw’r rhanbarth yn gyffredinol. Yn byw yma drwy gydol y flwyddyn ac yn nythu ar y clogwyni anghysbell ar lethrau’r mynyddoedd neu ar glogwyni’r môr, mae’r adar deallus, pwerus a thiriogaethol hyn i’w gweld yn aml yn erlid ei gilydd dros y tir, gan droelli’n acrobatig ar eu cefn bob hyn a hyn, wrth hedfan.                                  

Gellir gweld yr adar hyn drwy gydol y flwyddyn ac maent yn haws i’w canfod mewn ardaloedd mynyddig fel Cwm Idwal. Yn amlach na pheidio, o gerdded i gopa’r Wyddfa, fe welwch olygfeydd trawiadol o gigfrain yn hedfan.

© Dave Kilbey

Grug

7

Mae grug yn un o’r planhigion pwysicaf yn rhostiroedd ucheldir Gwynedd.  Mae’n blanhigyn sydd pur anaml yn tyfu’n dalach na metr a gall oroesi drwy bori cymedrol a llosgi rheolaidd. Ar ddiwedd yr haf, mae’r carped godidog o flodau porffor ar y tir uchel yng Ngwynedd yn olygfa gwbl ryfeddol.  Mae’r rugiar yn ffynnu ar yr egin ifanc a gwyfynnod fel yr Ymerawdwr yn bwydo ar y dail. Mae mêl y grug yn bwysig iawn ac felly symudir cychod gwenyn i’r bryniau yn ystod misoedd yr haf.

Yr amser gorau i weld y grug yw pan mae yn ei flodau, ddiwedd yr haf, a’r mannau gorau yng Ngwynedd ar gyfer ei weld yw ar hyd rhostiroedd arfordirol Penrhyn Llŷn ac ar lethrau’r ardaloedd mynyddig, fel Cwm Idwal.

Dyfrgi

8

Mamaliaid lled-ddyfrol yw dyfrgwn ac maent wedi addasu’n dda i fywyd yn y dŵr. Mae ganddynt gorff hir, main sy’n gallu tyfu hyd at 1.2m yn y gwrywod a 1m yn y benywod. Maent yn byw mewn afonydd, llynnoedd a nentydd dŵr croyw’n bennaf, lle mae’r glannau’n wyrdd neu ble ceir ynysoedd, corslwyni neu goetiroedd addas gerllaw ar gyfer chwilio am fwyd, magu a gorffwys. Maent hefyd yn byw mewn ardaloedd arfordirol. Mae’n rhaid i’w cynefinoedd gynnwys cyflenwadau bwyd digonol – pysgod yn bennaf ond hefyd adar, mamaliaid bychain, amffibiaid, cramenogion a molysgiaid.

Yn ystod y 1950au, gwelwyd dirywiad anferth ym mhoblogaeth y dyfrgi, yn bennaf o ganlyniad i lygredd mewn dyfroedd, yn sgil cemegau newydd o’r enw organoffosffadau. Wrth lwc, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r poblogaethau ar gynnydd unwaith eto, yn enwedig mewn ardaloedd yng Ngwynedd ac mewn ardaloedd cyfagos.

Gellir gweld y dyfrgi drwy gydol y flwyddyn a’r mannau gorau ar gyfer hynny yng Ngwynedd yw ardal Porthmadog, wrth aber afon Glaslyn. 

© Darin Smith

Derw Digoes

9

Mae’r Derw Digoes yn nodweddiadol o ogledd a gorllewin Prydain ac yn arbenigedd felly yng Ngwynedd. Rhoddwyd yr enw hwn ar y coed am nad yw’r mês sydd arnynt yn tyfu ar goesau (coesigau), ond yn uniongyrchol ar y brigau allanol (digoes). Mae’n un o’r coed pwysicaf yng nghoetiroedd Atlantaidd Gwynedd, sef y darnau sy’n weddill o fath hynafol o goetir a arferai fod â dosbarthiad eang o amgylch ymyl cefnforol gorllewinol gogledd Ewrop. Yn cael eu disgrifio’n aml fel ‘fforestydd glaw tymherus’ oherwydd eu hinsawdd gwlyb, clos, a’r llu o blanhigion a rhedyn isel ynddynt, mae’r coetiroedd hyn o werth cadwriaethol a golygfaol pwysig iawn.

Gellir mwynhau’r derw drwy gydol y flwyddyn ond er mwyn cael gwir ymdeimlad o ‘fforest law dymherus’, mae’n rhaid i’r derw fod yn eu dail, ac mae hynny’n digwydd o’r gwanwyn drwodd i’r hydref.

Y mannau gorau yng Ngwynedd i weld coetiroedd o dderw digoes yw o amgylch ardal Porthmadog ac ar hyd Bro Ffestiniog. Mae rhan helaeth o’r ardal hon wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, oherwydd y coetiroedd eu hunain ac oherwydd y rhywogaethau niferus sy’n gysylltiedig â hwy.

Flickr