Cwm Idwal

Eryri, cartref yr eryrod – ac er nad ydynt i'w canfod yma heddiw mae godidowgrwydd gwyllt y mynyddoedd yn ein digolledu.

Mae yna gyfoeth o adar. Edrychwch am yr hutanod ar gopaon uchel y Carneddau yn nechrau'r haf, a'r hebog tramor, sy'n nythu ar nifer o'r creigiau, yn plymio i ddal ysguthan y graig gyda grym ergydiol, a'r plu yn disgyn tua'r ddaear tra bo'r hebog, ei ysglyfaeth yn ei grafangau, yn troi a hedfan i ffwrdd. Mae'r gylfinir yn gôr ar y gweundir. Saif geifr gwyllt â'u cyrn trawiadol a'r llwynog yn ei wychder coch yn warchodwyr ar gribau'r bryniau. Mae gweld carlwm mewn ermin yn gweu ei ffordd ar draws sgri'r gaeaf yn fythgofiadwy. Maes cyfoethog i'w astudio yw planhigion y mynydd. Ewch i Glogwyn Du'r Arddu ar ochr ogleddol yr Wyddfa ac ar hyd gwaelodion y creigiau gwych fe welwch yn y gwanwyn y tormaen glasgoch a llyfenwy'r goferau, pren y ddannodd, gwlydd alpaidd, gludlys digoes a'n blodyn prin, meindlws, Lili'r Wyddfa. Mae'r clogwyni sy'n amgylchynu Cwm Idwal – Gwarchodfa Natur Genedlaethol – hefyd yn un o'r prif fannau ar gyfer planhigion arctig-alpaidd, yn ogystal a bod yn un o'r lleoliadau clasurol ar gyfer astudio daeareg a geomorffoleg. Yma y sylweddolodd Charles Darwin gyntaf effaith gerfluniol rhewlifiant ar draws y tirlun hwn. A gwaddol hyn yw'r ardal fwyaf siapus, fwyaf prydferth a llawn awyrgylch yn Ynysoedd Prydain, yn gopaon creigiog ac yn ddyffrynoedd dyfnion a gerfiwyd gan rew.


Jim Perrin, ysgrifennwr

{page_title_{county_code}}
{page_title_{county_code}}

© Prif Lun / Main image: © Graham Eaton - eatonnature.co.uk. Lluniau bach / Small images: Yr Wyddfa / Snowdon; Lliwedd © Simon Panton

Cwm Idwal

Mae Cwm Idwal, Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym mynyddoedd Eryri, yn gyflwyniad rhagorol i ddaeareg rewlifol. Mae llwybr ag arno arwyddbyst clir yn eich arwain i fyny i fyd ucheldirol a grugog y gigfran, gyda phlanhigion arctig alpaidd, nentydd byrlymus y mae bronwen y dwr yn ymwelydd cyson â hwy ac aruthredd a mawredd anhygoel yr amffitheatr rewlifol.

I weld y tywydd ar gyfer yr ardal hon yn fanylach, cliciwch ar Ragolygon y Tywydd. Rhagolygon Tywydd

Flickr