Ers y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, mae Gwynedd wedi bod yn ganolbwynt i weithgarwch creadigol. Mae gwreiddiau barddol a thraddodiad adrodd straeon Cymru’n ddwfn yn y sir, gyda’r ucheldir trawiadol a’r arfordir golygfaol yn yr ardal yn ysbrydoliaeth i weithiau celf sy’n enwog yn fyd-eang. Hyd heddiw, mae Gwynedd yn parhau’n fwrlwm o weithgareddau artistig eang o’r safon uchaf, fel a adlewyrchir yn orielau niferus y sir, a’r lleoliadau arddangos eraill.
Nod Darganfod Gwynedd yw annog pobl leol i ymfalchio yn eu diwylliant a’u tirlun, gofalu amdanynt a’u gwarchod. Gellir gwneud hyn drwy gefnogi crefftwyr ac arlunwyr lleol sydd, drwy eu celf, yn dal ati i ddangos bod y rhanbarth hwn yn unigryw ac arbennig. Mae Gwynedd yn gartref i gist drysorau o dalent ysbrydoledig a fwynheir gan y boblogaeth leol a’r ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r dalent greadigol, gyfoes hon yn parhau i gael ei hysbrydoli, yn union fel crefftwyr y gorffennol, gan fynyddoedd ac arfordir y sir.
© Prif lun / Main image © J Euron Jones Lluniau bach / Small images: Potz, Mynytho & Mari Eluned, Machynlleth © J Euron Jones
Gallwch gael hyd i’r mannau i weld peth o greadigrwydd Gwynedd drwy ddefnyddio’r cyfleuster canfod ‘celf a chrefft’ ar dudalen y map. Bydd yn eich helpu i ganfod amrywiaeth eang y rhanbarth o dalent, yn cynnwys darlunwyr, seiri coed, gofaint arian, cynllunwyr gweuwaith, arlunwyr serameg a ffotograffwyr, i enwi dim ond rhai disgyblaethau. Efallai y cewch eich temtio i brynu hefyd, a mynd â darn o Wynedd gartref gyda chi. ’Chewch chi mo’ch siomi.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau