Dewch i ddarganfod cyfoeth Gwynedd o fywyd gwyllt, diwylliant, treftadaeth a chynnyrch lleol. Mae gwefan Darganfod Gwynedd yn dathlu harddwch ac amrywiaeth safleoedd eiconig Gwynedd, yn Fynyddoedd; Coedydd ac Afonydd; Arfordir a Môr.
Cyfle i ddarganfod Lili’r Wyddfa a Led Zeppelin; Tywysogion a Llamhidyddion; Pysgotwyr a Ffermwyr; Ffeithiau Rhyfeddol a Ffuglen Ffansïol; ac yn goron ar y cyfan, Llechi, Copr ac Aur o Gymru. Am wybodaeth dymhorol i’ch helpu i ddarganfod ac ailddarganfod mannau arbennig Gwynedd, y wefan yw’r lle i chi. Cewch ganfod trysorau cudd a chael gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau, gweithdai, teithiau natur a llwybrau beicio. Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn 3 lleoliad “Theatr Wyllt”, gan dynnu sylw at Fynyddoedd, Afonydd, Coedydd, Arfordir a Moroedd Gwynedd ar eu gorau
Cewch Ddarganfod Gwynedd ar eich cyfrifiadur chi eich hun yn www.darganfodgwynedd.com neu yn un o’r deuddeg safle gwybodaeth gyda chyswllt di-wifr a geir ar hyd a lled Gwynedd, er mwyn eich helpu i gael y gorau o’r rhan gwbl ryfeddol yma o’r byd.
Paid â methu |
![]() |
|
| None | ||
![]() |
||
Mae Cwm Idwal, Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym mynyddoedd Eryri, yn gyflwyniad rhagorol i ddaeareg rewlifol. Mae llwybr ag arno arwyddbyst clir yn eich arwain i fyny i fyd ucheldirol a grugog y gigfran, gyda phlanhigion arctig alpaidd, nentydd byrlymus y mae bronwen y dwr yn ymwelydd cyson â hwy ac aruthredd a mawredd anhygoel yr amffitheatr rewlifol.
Mae gwarchodfa natur Gwaith Powdwr ar aber afon Dwyryd yn borth i'r coetiroedd derw crog a geir ym Mro Ffestiniog. Mae'r coedwigoedd cnotiog, hynafol sydd wedi'u gorchuddio gan fwsoglau, llysiau'r afu a chen yn gartref i'r gwybedog brith a'r tingoch ac yn yr afonydd a'r nentydd ceir dyfrgwn a sewin (brithyll môr).
Un o'r mannau gorau i brofi môr ac arfordir Gwynedd yw Uwchmynydd. Yn sefyll ar y pentir ym mhen draw un Llŷn, rydych yn siwr o deimlo grym y môr yno, yn ogystal ag aruthredd y clogwyni a gwerth y rhostiroedd arfordirol i adar allweddol fel y frân goesgoch a chlochdar y cerrig.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau